Am
Dewch i ddathlu amser gorau'r flwyddyn wrth i G4 gyflwyno holl hwyl yr ŵyl eleni, gan ddychwelyd gyda thaith dros y Nadolig i eglwysi cadeiriol, priordai, neuaddau ac abatai ledled y DU.
Bydd lleisiau cyfareddol G4 yn cyfuno'n hyfryd wrth fynd â chi ar daith gerddorol wefreiddiol.
Bydd doniau G4 yn eich swyno ac yn cynnau eich ysbryd Nadoligaidd. Bydd y grŵp yn mynd â'ch bryd gyda charolau traddodiadol, myfyrdodau cysegredig, ffefrynnau clasurol a chaneuon Nadoligaidd modern poblogaidd, gan gynnwys Silent Night, O Holy Night, All I Want for Christmas, Walking in the Air, When a Child is Borna The 12 Days of Christmas a llawer mwy.
Mae harmonïau hudolus a doniau perfformio penigamp y grŵp yn esbonio pam mae'r daith hirddisgwyliedig hon yn gwerthu pob tocyn bob blwyddyn, wrth i'r cantorion lonni eich calon a'ch llenwi â holl hwyl yr ŵyl.
Ar ôl y sioe, byddwch yn siŵr o ddawnsio'r holl ffordd adref, gan wybod eich bod wedi cael profiad bythgofiadwy heb ei ail!