Am
Theatr gerdd ar ei gorau.
Yn dilyn eu halbwm a'u taith i ddathlu 20 mlynedd a enillodd glodydd y beirniaid, mae G4, pedwarawd canu ar y cyd gorau'r DU a sêr cyfres wreiddiol X Factor, bellach am ychwanegu eu sain unigryw at y caneuon theatr gerdd mwyaf poblogaidd, yn ystod noson wirioneddol fythgofiadwy ...
Bydd caneuon hynod lwyddiannus o'r West End a Broadway yn cael eu cyflwyno gan bedwar o'r lleisiau gorau yn y byd.
Ymunwch â'r criw ar ras wyllt drwy ganeuon gwefreiddiol, sy'n cyflwyno'r holl emosiynau drwy alawon calonogol, baledi torcalonnus ac anthemau anhygoel.
Bydd clasuron o Les Mis, Phantom, South Pacific, Jersey Boys, Dear Evan Hansen, Jesus Christ Superstar, Greatest Showman, Miss Saigon, Chess, Book of Mormon, Lion King, Aspects of Love, We Will Rock You a llawer mwy.
Dewch i fwynhau G4 mewn ffordd newydd sbon.
Beth am achub ar y cyfle i ddod i sesiwn cwrdd a chyfarch am 6pm? Cewch ddiod am ddim a chyfle i gael lluniau gydag aelodau G4 ac eitemau wedi'u llofnodi ganddynt.