Am

Sioe deyrnged Gary Barlow a Robbie Williams, sioe na ddylid ei cholli.

Daw dau o'r artistiaid teyrnged rhyngwladol gorau ynghyd am noson wirioneddol fythgofiadwy o glasuron Barlow, Williams a Take That.

Mae Jon Fisher a Dan Budd yn gwbl gyfareddol. Mae'r ddau yn rhyfeddol o debyg i'r artistiaid y maent yn eu portreadu, ac mae eu perfformiadau ar y llwyfan a'u lleisiau'n drawiadol. Y nhw yn wir yw'r goreuon yn y busnes a chyda'r bartneriaeth newydd hon, gall selogion fod yn gwbl sicr fod y sioe deyrnged hon yn un o'r rhai mwyaf dilys a chyffrous.

Mae sioe Gary a Robbie yn cynnwys yr holl ffefrynnau gan y ddau enw mawr dros y tri degawd diwethaf ac wrth gwrs, mae rhai clasuron gan Take That yn cael eu cynnwys hefyd.

Mae band byw bendigedig yn ymuno â Jon a Dan ar gyfer sioe a fydd wir yn gwneud i chi feddwl eich bod yn gwylio'r sêr go iawn. Mae'r gyngerdd syfrdanol hon yn gaboledig, yn llawn egni ac yn ddifyr iawn!