Am
Awdur 'Don’t Panic! All the stuff the expectant dad needs to know'
Wedi'i ddisgrifio fel y 'tad mwyaf digrif ar Instagram', mae sgetsys hynod ddoniol y digrifwr stand-yp George wedi cael eu gweld miliynau o weithiau wrth iddo siarad am y pethau mawr mewn bywyd fel bod yn berchennog ffriwr aer, gwylio rhaglen ddogfen David Beckham a phrofiad ingol ceisio gwneud jig-so gyda'ch plentyn.
250 miliwn o ymweliadau ar-lein...
Nawr mae'n dod â'i berfformiad stand-yp newydd sbon i'r llwyfan. Ond fydd e ddim yn siarad am fagu plant yn unig, achos mae wedi gwneud llwyth o bethau eleni. Mae wedi prynu hwfer newydd, wedi gwylio stwff ar Netflix... llwyth o bethau.
Rhwng creu atgofion gyda'i blant, mae George hefyd wedi ymddangos ar The Stand Up Sketch Show a Comedy Central Live, ysgrifennu llyfr sy'n gwerthu fel slecs, (Don't Panic! All the stuff the expectant dad needs to know) ac wedi cefnogi Romesh Ranganathan, Tom Allen, Russell Kane a Josh Widdicombe ar eu teithiau cenedlaethol.