Am
Teimlo ar ben eich tennyn? Bywyd mewn sbin? Gadewch i gerddoriaeth freuddwydiol George Washingmachine olchi ymaith eich trafferthion.
'Will have your feet pumping and your heart thumping' MTV Asia
Canwr swing, ecsentrig, a chwaraewr ffidil jazz disglair, nid yw George yn ail feiolin i unrhyw un wrth iddo asio jazz llinynnol gyda’i ddehongliad o’r clasuron a chyfansoddiadau newydd yn y perfformiad trydanol hwn.
Y Band
Dave Kelbie - Gitâr (The Dime Notes, Don Vappie Jazz Creole, Django a la Creole, Fapy Lafertin, The Viper Club, Tcha Limberger)
John Kelly - Gitâr (The Already in Berlin Band)
Mark Elton - Bas (chwaraewr bas swing cryf a chyd-Aussie o fand Scott Hamilton)
George Washingmachine
Mae wedi perfformio yn yr holl wyliau mawr ledled Awstralia (gan gynnwys rôl llysgenhadol yn The Clarence Jazz Festival yn Hobart) ac mae'n teithio'n rheolaidd yn Ewrop, gan ymddangos mewn gwyliau yn Ffrainc, yr Almaen, y Swistir a'r DU. Mae wedi ymddangos yng Nghiwba yn The Havana International Jazz Festival ac mae'n ymddangos yn ‘The Conductor & The Clown’ ochr yn ochr â’r cyfansoddwr a'r arweinydd George Ellisar y cyd â The Canberra Symphony Orchestra.
Yn 2019, teithiodd George o amgylch UDA. Perfformiodd yn New Orleans, Efrog Newydd a bu'n athro feiolin jazz preswyl yn Swinging Hot Strings Festival yn Port Townsend, gogledd Seattle.
Yn hwyr yn 2019 teithiodd gyda John Waters ar y daith Bob Dylan Revisited.
Heblaw am hynny, mae'n brysur yn ei stiwdio yn creu darnau celf.
'it made you want to tap feet, nod your head and smile goofily' The Sarawak star, Malaysia
'his quartet still swing like crazy' The Jazzmann, UK
'Swings like God's fire' Etudes Tsigane, Fr
'relentless good humour and a band swinging like the clappers. Simply marvellous!' Hotclub News