Am
Yn gerddor o Aberystwyth, mae Georgia Ruth wedi hen arfer gweu ei dylanwadau gwerinol i greu seinweddau unigryw. Enillodd ei halbwm cyntaf, 'Week of Pines', y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, yn ogystal â chyrraedd dwy o restrau fer Gwobrau Gwerin BBC 2
Wedi iddi gydweithio â'r Manic Street Preachers, aeth Georgia ymlaen i ryddhau ei hail a'i thrydydd albwm, 'Fossil Scale' a 'Mai', cyn rhyddhau dwy EP ychwanegol.
'Cool Head' yw pedwerydd albwm Georgia, ac mae'n cyfleu'r hyn a disgrifia Georgia fel "taith hir drwy’r nos i’r bore". Mae 'Cool Head', ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml, yn gasgliad didwyll o ganeuon sy'n plethu dylanwadau sy'n ymestyn o Americana i faledi nodedig y 60au.
Wedi’i recordio yn stiwdio Sain, mae’r albwm yn cynnwys cyfraniadau gan Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Gwion Llewelyn (Aldous Harding), a Rhodri Brooks (Melin Melyn). Mae hefyd yn gweld llais unigryw Euros Childs (Gorky's Zygotic Mynci) yn ymddangos ar ambell i drac yn ogystal â threfniadau llinynnol Gruff Ab Arwel. Enwebwyd yr albym ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Yn y sioe yma, bydd Georgia’n chwarae’r albwm lawn gyda’r band lawn, gan gynnwys yr offerynwyr llinynnol er mwyn dod ag awyrgylch y record arbennig yma i Abertawe.