Am
Georgina Jackson’s ‘Sass & Brass’
Nos Wener 4 Medi, 8.15pm
Mystwyr Abertawe, Sgwâr y Santes Fair
Byddwch yn barod am noson llawn steil, bywiogrwydd a sain syfrdanol wrth i Georgina Jackson gyflwyno ei sioe “Sass and Bass” i lwyfan Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe gyda'i Mighty Mini Big Band.
Gan ganu yn ei dull melfedaidd adnabyddus a dangos ei phŵer wrth chwarae'r trymped, bydd Georgina yn cyflwyno cymysgedd anhygoel o ganeuon siglo traddodiadol, baledi emosiynol dwys a ffefrynnau eiconig, ynghyd â glamor clasurol Vegas.
Mae'r sioe hon wedi'i hysbrydoli gan enwogion fel Louis Armstrong, Ella Fitzgerald, Ray Charles a Sinatra, a chewri modern fel Adele, gan ddathlu'r gerddoriaeth fytholwyrdd sydd wedi llunio doniau unigryw Georgina.
Mae'r band mawr cryno hwn yn cynnwys rhai o gerddorion cyfoes gorau'r DU, sy'n cyfuno i greu sain drydanol.
· Georgina Jackson - Trymped/Llais/Corn Flugel
· Karen Sharpe - Sacsoffon Tenor
· Craig Wild - Trymped
· Mike Feltham - Trombôn
· Jim Watson - Piano
· Joe Pettit - Bas
· Matt Skelton - Drymiau
Efallai fod band Georgina Jackson yn fach, ond mae'n anhygoel o bwerus. Peidiwch â cholli'r sioe!
“Mae Georgina yn wirioneddol dda iawn ac mae ganddi ddawn sy'n werth ei chefnogi” Syr Michael Parkinson, BBC Radio 2
Archebwch tocynnau nawr!
Mae'r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2026. Gallwch weld y rhaglen lawn yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwyl-jazz-ryngwladol-abertawe/
Band Arddwrn Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe - Archebwch ar gyfer pob un o'r deg sioe gyda thocyn am bris untro o £175 gyda'n gostyngiad aml-docyn (arbediad o £48 o'i gymharu â thocynnau unigol). Tocynnau'n brin. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i archebu yma!