Am

"Gerald of Wales: A Natural Historian" gyda Colin Wheldon James Dyn o'r oesoedd canol oedd Gerallt Gymro a oedd yn meddu ar sawl rôl wahanol: offeiriad, ysgolhaig a diwygiwr; awdur a theithiwr; gŵr llys a diplomydd; a gwladgarwr. Yn ogystal â'r pethau hyn roedd hefyd yn ddyn a oedd yn chwilfrydig iawn am y byd o'i gwmpas. Roedd ei ddehongliad o Astudiaethau Natur yn eang iawn. Roedd yn cynnwys arferion adar a bwystfilod a phriodweddau bryniau, llynnoedd a meini hirion yn ogystal â gwyrthiau, argoelion a rhyfeddodau, cynlluniau cythreuliaid a dialedd seintiau.