Am
GET MOVING - Arddangosfa gan MOVING MARKS COLLECTIVE
Paentio, cerflun, ffotograffiaeth, ffilm.
Cynhelir digwyddiadau yn ystod yr arddangosfa hefyd. Bydd gwybodaeth ar gael ar Instagram: moving_marks
Get Moving yw arddangosfa gyntaf Moving Marks.
Mae 11 o artistiaid benywaidd yn rhannu eu dehongliadau a'u gweledigaeth o wydnwch, cryfder a grymuso merched, a gadael fynd o safbwyntiau cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol personol ac ehangach.
Gan ddefnyddio marciau, cyfryngau, ysbrydoliaeth a negeseuon gwahanol, mae Get Moving yn arddangosfa bwerus ac emosiynol sy'n ysgogi'r meddwl, sy'n cynnwys cerflun, cerameg, gosodiadau, paentiadau, ffilmiau a ffotograffiaeth. Cynhelir digwyddiadau a gweithdai ategol fel barddoniaeth, cân a dawns yn ystod yr arddangosfa. Cymerwch gip ar ein cyfrif Instagram #moving_marks am fanylion ac amserau.