Am
Mae Imperial Classical Ballet® yn cyflwyno bale rhamantus lle mae cariad yn trechu brad.
Gyda cherddorfa fyw lawn.
Mae Giselle yn adrodd stori dorcalonnus merch werinol sy'n cwympo mewn cariad gyda'r Tywysog Albrecht, heb iddi wybod ei hunaniaeth wirioneddol. Wrth i'r gwir gael ei ddatgelu ac wrth i'w chalon dorri, mae Giselle yn ildio i'w galar. Ym myd yr ysbrydion, mae'n ymuno â'r Wilis, sef ysbrydion merched ifanc a gafodd eu bradychu sy'n denu dynion i'w marwolaeth trwy ddawnsio. Ond, wrth i Albrecht gyrraedd ei bedd, mae cariad Giselle yn trechu ei hawydd i ddial, gan ei amddiffyn rhag tynged angheuol y Wilis.
Caiff y campwaith hwn o'r cyfnod Rhamantaidd ei ddathlu am ei ddyfnder emosiynol, ei goreograffi nefolaidd ac ail act hiraethus o hyfryd. Caiff y cynhyrchiad hwn ei berfformio gyda cherddorfa fyw lawn ac mae'n cyfleu pŵer maddeuant a chryfder parhaol cariad.
Ymunwch â ni ar gyfer un o berfformiadau mwyaf barddonol a theimladwy'r byd bale.