Am

Dydd Iau 18 Mehefin 2026
5:30 pm - 8:00 pm

Profwch Oriel y ddinas ar ôl amser cau

Dewch i ddathlu agoriad ein harddangosfa, Art in the Sky: Arddangosfa Barcutiaid Celf Rhyngwladol Cyfoes

Arddangosfa, Dydd Gwener 19 Mehefin 2026 – Dydd Sul 27 Medi 2026

Dyma’r arddangosfa gyntaf yn y DU sy’n dathlu’r barcut fel cerflunwaith, gan ddangos barcutiaid celf rhyngwladol cyfoes a phenodol i safleoedd gan Kadek Armika ac Anna Rubin, ochr yn ochr â barcutiaid cyfoes a thraddodiadol o bob cwr o’r byd. Caiff yr arddangosfa ei churadu gan Isabel Griffin, cynhyrchydd creadigol yn Abertawe.


Bar a chaffi ar agor

Mynediad am ddim, croeso i bawb

Does dim angen tocynnau, galwch heibio ac ymunwch â ni unrhyw bryd