Am

Nos Iau, 8 Mai, bydd ffagl y castell a lamp heddwch yn cael eu goleuo am 9.30pm i goffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Bydd cerddoriaeth y cyfnod yn cael ei chwarae'n fyw a bydd gwestai arbennig yn dod i oleuo'r ffagl.

Byddwn yn dechrau ychydig ar ôl 8pm gyda "No Time to Lose, sef band jazz cyfoes newydd, ac yna bydd "Just Maggie" yn canu caneuon o'r gorffennol a'r presennol. Rhwng y rhain, bydd caneuon o adeg y rhyfel i'w canu ar y cyd, ac yna bydd "Mal Pope" yn perfformio rhai caneuon. Bydd y ffagl yn cael ei goleuo'n brydlon am 9.30pm, a byddwch yn gallu ei gweld ledled y Mwmbwls, o Eglwys yr Holl Saint i Verdis i bentref y Mwmbwls.

Gallwch ddod â chwrw (neu beth bynnag yw eich hoff ddiod) gyda chi i ddathlu gymaint ag y gwnaethant 80 mlynedd yn ôl wrth i chi ganu hen ganeuon poblogaidd ar y cyd fel White Cliffs of Dover neu Hang Out the Washing, ac efallai Lambeth Walk hyd yn oed!