Am
Bydd dathliad Nadoligaidd mwyaf Cymru'n dychwelyd ym mis Tachwedd, gan ddod â noson ysblennydd o hud cerddoriaeth ac adloniant y Nadolig i ganol y ddinas.
Gwahoddir teuluoedd i sefyll ar hyd y strydoedd nos Sul 22 Tachwedd o 5pm wrth i Orymdaith y Nadolig boblogaidd Abertawe ddychwelyd, a fydd yn cynnwys gorymdaith fywiog o grwpiau cymunedol, fflotiau Nadoligaidd, perfformwyr a chymeriadau poblogaidd, i gyd yn helpu i gychwyn tymor y Nadolig mewn steil.
Bydd mwy na 40 o sefydliadau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn y dathliad, gan greu arddangosfa liwgar o greadigrwydd, talent ac ysbryd Nadoligaidd. Ar hyd y llwybr, gall ymwelwyr hefyd ddisgwyl gweld eu hoff gymeriadau o straeon tylwyth teg, arwyr llyfrau comig, perfformwyr Nadoligaidd ac, wrth gwrs, Siôn Corn a Mrs Corn yn teithio ar eu sled hudol.
Yn dilyn ei llwyddiant wrth ennill teitl Digwyddiad y Flwyddyn (Awdurdod Lleol) yng Ngwobrau Cymdeithas Genedlaethol Digwyddiadau Awyr Agored 2025, bydd gorymdaith eleni'n dilyn y llwybr cyffrous a lansiwyd y llynedd, gan ddechrau yn Neuadd y Ddinas, lle bydd Siôn Corn yn dechrau'r digwyddiad yn swyddogol gydag arddangosfa oleuadau Nadoligaidd arbennig a thân gwyllt. Yna, bydd yr orymdaith yn teithio ar hyd St Helens Road, Ffordd y Brenin, College Street, Castle Street a Caer Street, cyn gorffen ar Princess Way.
Hygyrchedd
Bydd synau uchel, goleuadau’n fflachio ac effeithiau arbennig yn ystod yr orymdaith – os oes angen rhywle mwy tawel arnoch i fwynhau’r orymdaith, bydd y rhan dawelaf ar ran isaf Ffordd y Brenin (ochr St Helen’s Road) a Stryd Fawr. Ond dylech sylweddoli bod natur yr orymdaith yn golygu y bydd sŵn a goleuadau’n bresennol trwy gydol y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw bryderon ac rydych am eu trafod ymhellach, ffoniwch ni ar 01792 635428. Bydd ardal wylio hygyrch ar gael ar Princess Way ac Orchard Street.
Does dim angen cadw lle, dewch ar y noson. Toiledau hygyrch a nifer cyfyngedig o seddi ar gael hefyd yn yr ardaloedd gwylio.