Am

Ymgasglwch gyda ni yng ngwres y tân, am brofiad swper unigryw o dan y sêr. 

Yn swatio ymhlith gwelyau toreithiog yr arddbyddwn yn gwledda ar blatiau rhannu wrth i ni ddathlu dyfodiad yr haf ac ysbryd cymuned. 

Noson yn llawn bwyd seiliedig ar blanhigion tymhorol blasus, cerddoriaeth fyw hudolus, a chelfyddyd fyw gyfareddol.  

Bydd y cwrs olaf yn cael ei weini ger y tân, i godi’n calonnau ac i sbarduno sgyrsiau newydd. (Bydd cyflenwad da o falws melys hefyd.) 

....Tywydd gwlyb? Dim problem! Bydd y digwyddiad yn symud dan do i golonâd yr amgueddfa (lle mae ei naws ddiwydiannol yn tystio i’r ffaith ei fod unwaith yn seidin rheilffordd) 

Tocynnau  - Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer y swper hwn yn amrywio. Dewiswch y pris sydd fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.

£26 – Safonol 

£18 - Hygyrch