Am
Mae Clwb Jazz Abertawe'n cyflwyno Greg Abate yn Cu Mumbles y mis Hydref hwn!
Mae'r sacsoffonydd, y ffliwtydd a'r cyfansoddwr jazz Greg Abate yn berfformiwr jazz rhyngwladol/artist recordio ac yn teithio o gwmpas y byd am 225 niwrnod y flwyddyn.
Ar ôl iddo orffen rhaglen pedair blynedd yng Ngholeg Cerdd Berklee, chwaraeodd Greg y sacsoffon alto yng Ngherddorfa Ray Charles am 2 flynedd.
Ym 1978, sefydlodd Greg ei grŵp 'Channel One', a oedd yn boblogaidd yn ardal Lloegr Newydd ac ar ôl hynny, cafodd gyfle i chwarae'r sacsoffon alto gyda Cherddorfa Artie Shaw a ailgychwynnwyd dan arweiniad Dick Johnson i 1986 i 1987.
Yn dilyn y profiad hwn, dechreuodd Greg fel unawdydd ôl-bop caled wrth iddo berfformio mewn gwyliau jazz, cymdeithasau jazz a chlybiau jazz o gwmpas yr UDA, Canada a thramor, gan gynnwys y rhan fwyaf o Ewrop, y DU a Moscow, Rwsia a Georgia.
Mae ei albwm diweddaraf, Gratitude, gyda Thriawd Tim Ray wedi ennill clod ac wedi'i chwarae llawer yn rhyngwladol. Cymerwch gip ar recordiadau eraill gan Greg, gan gynnwys y gwesteion arbennig Phil Woods ac artistiaid nodedig eraill.
Mae Greg bellach yn artist recordio gyda 'Whaling City Sound'.
Recordiodd Greg ei CD cyntaf, Live at Birdland ym 1991 gyda'r label recordio jazz 'Candid' gyda thriawd a oedd yn cynnwys James Williams, Rufus Reid a Kenny Washington.
Hyd yn hyn, mae Greg wedi recordio dros 17 o recordiadau eraill fel arweinydd.
Mae Greg hefyd yn Athro cynorthwyol Astudiaethau Jazz yng Ngholeg Rhode Island ac mae'n glinigydd jazz gweithredol iawn drwy nawdd cwmni offerynnau Conn Selmer, wrth iddo gynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr ar draws yr UDA a thramor.
Cyflwynwyd Greg i'r 'RI MUSIC HALL OF FAME' yn 2016.
Greg Abate yn chwarae'r sacsoffon ar lwyfan.