Am

Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr ar gyfer ein gweithdy mosaig rheolaidd  

Dysgwch y sgiliau y mae eu hangen i wneud eich darn mosaig eich hun neu cyfrannwch at weithiau sy’n cael eu creu ar y cyd i’w harddangos yn gyhoeddus pan fyddwch wedi dysgu’r hanfodion. 

Cewch gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd. 

£5.00 

Mae’n rhaid cadw lle. 

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein   

Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion. 

 

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.   

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.   

Ffôn: 01792 516900     

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk    

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma