Am
Dychmygwch greu cymeriad neu gyflwyno hoff degan, a gwylio wrth iddo ddod yn fyw mewn byd digidol. Yn y gweithdy hwn, mae celf yn cymysgu â thechnoleg wrth i'ch creadigaeth ddod yn fyw drwy animeiddio 3D. Nid oes angen profiad blaenorol, ond mae angen dychymyg.
Gallwch roi cynnig ar greu eich cymeriad neu eich gwrthrych eich hun, gan ddefnyddio clai neu ddeunydd arall (neu gallwch ddod â'ch tegan neu eich eitem eich hun), yna ei sganio i fyd digidol rhithwir 3D.
Y tu mewn i'r byd digidol, byddwch yn dod â'ch model yn fyw ac yn rhoi cynnig ar ei animeiddio! Gallwch wneud iddo redeg, cerdded, neidio neu aros yn y cefndir. Yn y diwedd, bydd eich model animeiddiedig yn cael ei e-bostio atoch fel y gallwch ei gadw, ei arddangos neu hyd yn oed ei ddefnyddio mewn ffilm fer mewn sesiynau yn y dyfodol.
Byddwn yn gweithio drwy bob cam gyda'n gilydd; felly, ni fydd angen sgiliau digidol.
AM DDIM. Rhaid cadw lle yn y gweithdy. Galwch heibio i gael cip a phaned o de unrhyw bryd.
Yn addas i unrhyw un rhwng 9 a 90 oed.
Trosolwg o'r Sesiwn
Lluniwyd y sesiwn i fod yn hyblyg yn hytrach na chadw at amserlen dynn, gan alluogi cyfranogwyr i ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain. Bydd hyn yn sicrhau na fydd yn rhaid i'r rhai hynny sy'n gorffen tasg yn gynnar aros yn ddiangen am gymorth neu at ddibenion prosesu. Yn ystod unrhyw gyfnodau prosesu gofynnol (e.e. defnyddio ffotogrametreg neu pan fo mynediad cyfyngedig i weithfan), caiff lluniaeth ei ddarparu a'i annog.
Cyflwyniad
Gwahoddir cyfranogwyr i lawrlwytho'r cymhwysiad gofynnol ar eu ffonau, lle y bo'n berthnasol (mae'r cam hwn yn ddewisol).
Cam 1: Creu Modelau (oddeutu 90 munud)
Bydd cyfranogwyr yn creu cymeriad gan ddefnyddio'r deunyddiau a ddarperir, fel clai. Er mwyn animeiddio modelau, dylid eu gosod ar ffurf T; fel arall, gall cyfranogwyr ddewis creu gwrthrych disymud i'w ddefnyddio at ddibenion golygfa neu set ddigidol. Gellir defnyddio teganau neu wrthrychau personol a adeiladwyd eisoes hefyd.
Cam 2: Ffotogrametreg (oddeutu 45 munud)
Bydd cyfranogwyr yn tynnu cyfres o ffotograffau (fel arfer 50–75, ond hyd at 250 os oes angen) o'u model er mwyn creu fersiwn 3D. Pan fydd yn barod, caiff y model 3D ei lanlwytho'n awtomatig i Sketchfab. Bydd cyfrif Sketchfab a rennir ar gael i'r rhai hynny sy'n defnyddio eu dyfeisiau eu hunain, neu gellir e-bostio modelau yn ôl y gofyn.
Cam 3: Animeiddio ac Arddangos (oddeutu 45 munud)
Bydd y model gorffenedig yn cael ei baratoi a'i animeiddio mewn un cymhwysiad. Yna bydd cyfranogwyr yn gallu archwilio eu creadigaethau ar ffurf rithwir. Os oes digon o amser, gellir mewnforio modelau i Blender hefyd, gan alluogi gwaith yr holl gyfranogwyr i gael ei gyfuno mewn golygfa arddangos a rennir. Darperir yr olygfa hon ar ôl y digwyddiad, ynghyd â dolen YouTube fel y gall cyfranogwyr ddychwelyd i'w gwaith a'i rannu. Cedwir yr holl fodelau hefyd ar gyfer sesiynau posib yn y dyfodol.