Am

Nod y grŵp Gweithdai Dydd Mercher i Oedolion yw gwella mynediad pobl hŷn i’r celfyddydau. 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chartrefi gofal preswyl, cynlluniau llety lloches a lleoliadau yn y gymuned i gynnig sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i’n cenhedlaeth hŷn. Nod y grŵp yw hyrwyddo annibyniaeth, hyder cymdeithasol, sgiliau creadigol a chydlyniant cymunedol, trwy amgylchedd cefnogol i hen aelodau ac aelodau newydd. £3.00. Mae’n rhaid cadw lle.

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein  

 

 

Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i’n cymuned ffoaduriaid ac unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion. Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad. Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.