Am

23.07.26, 30.07.26, 06.08.26, 13.08.26  

£25 ar gyfer pedair sesiwn 

£8 fesul sesiwn unigol (wythnosau 1-3). 

Crëwch eich portffolio printiau bach eich hun yn ystod yr haf. Bob wythnos, dysgwch broses newydd ar gyfer gwneud printiau. 

PWYSIG: Bydd wythnos 4 ar gael i’r rhai hynny sydd wedi cymryd rhan yn y gweithdai eraill yn unig, gan y bydd cyfranogwyr yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn y sesiynau blaenorol.      

Wythnos 1 – 23.07.26 Monobrintio 

Mae monobrintio’n dechneg ar gyfer gwneud printiau sy’n cynhyrchu un print yn unig, yn hytrach na sawl print cyson. Mae’n ffordd wych o gyflawni canlyniadau cyflym a marciau unigryw a fydd yn helpu unrhyw bortffolio i ddenu sylw.  

Yn y sesiwn hon, byddwn yn defnyddio deunyddiau naturiol i estyn terfynau’r hyn y gellir ei gyflawni, yn ogystal â thrafod sut gellir defnyddio’r canlyniadau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd i wella ac amrywio eich gwaith.  

Wythnos 2 – 30.07.26 Sychbwynt   

Sychbwynt (drypoint) yw proses gwneud printiau intaglio lle mae’r marciau’n cael eu cerfio i mewn i arwyneb.  

Drwy grafu arwyneb deunydd, gallwch greu argraff o’r marciau gan ddefnyddio inciau printio penodol a phapur llaith cyn sychu’r arwyneb.  

Mae’r broses hon yn ffordd wych o gyflawni canlyniadau ymddangosiadol draddodiadol heb y cemegau na’r costau cysylltiedig ag ysgythru a thechneg sychbwynt ar blastigau caled neu fetelau.  

Yn y sesiwn hon, byddwn yn defnyddio deunyddiau Tetra Pak i archwilio’r hyn y gellir ei gyflawni drwy’r cyfrwng hygyrch a difyr hwn.  

Wythnos 3 – 06.08.26 Colagraff 

Mae colagraff yn broses gerfweddol, lle glynir gweadau a haenau deunyddiau wrth arwyneb “plât” ac ychwanegir inc at yr ardaloedd uchel i greu eich delwedd.  

Mae’r broses hon yn ffordd ddifyr o ddefnyddio deunyddiau a thechnegau crefft anarferol, i ddatblygu arwyneb tebyg i gerflun sy’n cynhyrchu printiau annisgwyl a chyffrous.  

Wythnos 4 – 13.08.26 Arbrofi – cyfuno prosesau  

Yn y sesiwn olaf byddwn yn archwilio sut gallwn ddefnyddio pob un o’r gwahanol brosesau a ddysgwyd mewn sesiynau blaenorol i gyflawni canlyniadau trawiadol.  

Byddwch yn cyfuno argraffu â leino, monobrintio, ysgythru sychbwynt a cholagraff i wneud gwaith celf unigryw sy’n dangos eich profiad eang ac yn cynnig y cyfle i arbrofi ac archwilio sut i ddefnyddio eich sgiliau newydd mewn ffyrdd diddorol.   

Gellir trefnu sesiynau unigol ar gyfer y tair sesiwn gyntaf. 

PWYSIG: Bydd wythnos 4 ar gael i’r rhai hynny sydd wedi cymryd rhan yn y gweithdai eraill yn unig, gan y bydd cyfranogwyr yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn y sesiynau blaenorol.    

 Darperir yr holl ddeunydd. 

Mae’n rhaid cadw lle. 

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein