Am
Gweithdai Teulu Dydd Sadwrn
Ymunwch â’n gweithdai celf AM DDIM i deuluoedd sy’n cael eu cynnal bob yn ail ddydd Sadwrn trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r gweithgareddau celfyddydol hwyliog hyn yn canolbwyntio ar ystod o ddeunyddiau a thechnegau gwahanol sy’n addas ar gyfer pob gallu.
Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, rhaid archebu lle!
Rhaid i rai dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Darperir yr holl ddeunyddiau.
e-bostiwch lucy@elysiumgallery.com i archebu eich lle.
Chwefror 22ain – Gweithdy gwneud gwisgoedd
Crëwch eich masgiau a’ch gwisgoedd eich hun o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn seiliedig ar eich hoff gymeriadau o lyfrau yn barod ar gyfer Diwrnod y Llyfr ym mis Mawrth.