Am
Dewch i greu gwisg i'r dyfodol, ac mae croeso i chi fynd dros ben llestri! Cewch gyfle i baentio eich gwisg a’i haddurno â phatrymau a delweddau lliwgar. Penwisg, siaced, sgert neu esgidiau? Mae'r gweithdai wedi'u hysbrydoli gan arddangosfeydd cyfredol Jason&Becky: ‘Where the Lost Language of the Dead Begins’; a Doris Graf: ‘CityX – Me, Swansea’. AM DDIM.
Am ddim. I oedolion 18 oed ac yn hŷn.