Am

Ymunwch â hwyl yr ŵyl yn ein Gweithdy Corachod creadigol yn yr Amgueddfa. 

Dan arweiniad Siân Corn, bydd pob plentyn yn creu eu glôb eira disglair eu hunain i'w drysori. 

Bydd digonedd o hwyl, dychymyg a hud a lledrith ar lawr y ffatri Nadoligaidd hon.

Oed 6+

Darperir yr holl ddeunyddiau - Bydd gliter ecogyfeillgar yn cael ei ddefnyddio yn y gweithdy hwn

1 awr 

Iaith:

 - Sad 30 Tachwedd: 11am a 1pm (Saesneg) 3pm (Cymraeg) Sul 1 Rhagfyr: 11am, 1pm a 3pm (Saesneg)

Uchafswm o x 2 oedolyn ym mhob grwp. 

Mae deunyddiau crefft yn cael eu dyrannu i bob plentyn gyda thocyn taledig.  Mae oedolion yn cael eu hannog i helpu eu plentyn gyda'r crefftau, ond ni fyddant yn cael eu deunyddiau eu hunain.