Am

11:00 – 13:00 

21.07.26, 28.07.26, 04.08.26, 11.08.26  

£25 ar gyfer pedair sesiwn  

Ymunwch â ni am gwrs ffeltio â nodwydd sy’n para am bedair wythnos.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu amrywiaeth eang o sgiliau i greu eich anifail ffelt, gan gynnwys technegau sylfaenol ar gyfer ffeltio â nodwydd, dylunio, adeiladu armatwr ac animeiddio sylfaenol.

Dysgwch yr hanfodion yn ystod ein gweithdy cyflwyniadol. Crëwch fadarch eiconig cyn dylunio a chreu anifail coetir ffelt â nodwydd a’i animeiddio mewn ffilm fer!

Nid oes angen profiad a darperir yr holl ddeunyddiau.

Gweithgareddau am ddim i aelodau Pasbort i Hamdden a cheiswyr lloches.

 

Darperir yr holl ddeunydd. 

Mae’n rhaid cadw lle.   

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein    

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.     

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.     

Ffôn: 01792 516900       

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk