Am
Mae Safiyyah yn artist sy'n arbenigo mewn tecstilau patrymau arwyneb. Mae ei gwaith yn cynnwys amrywiaeth o dechnegau gwneud printiau i greu ymdeimlad o adrodd straeon ar decstilau. Ers graddio gyda gradd Meistr mewn Dylunio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae wedi bod yn gwneud gwaith allgymorth creadigol, gan gynnal gweithdai addysgu i aelodau o'r gymuned a gweithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol. Ar hyn o bryd, mae'n rhan o'r tîm allgymorth yn Oriel Mission yn Abertawe lle mae'n gweithio ochr yn ochr â'r tîm i ddarparu mannau a chyfleoedd i gymryd rhan mewn arferion creadigol.
Mae'r gweithdy galw heibio hwn yn addas i ddechreuwyr. Byddwch yn cael cyfle i greu printiau unigryw ar lieiniau tecstilau. Bydd yr artist yn dangos i chi sut i greu eich plât printio unigryw eich hun gan ddefnyddio deunyddiau syml, ailwampio ffabrigau presennol neu roi cynnig ar wneud eich print eich hun. Drwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau syml, byddwch yn meithrin dealltwriaeth newydd o wneud printiau ac yn meddu ar ambell ddarn hyfryd sy'n mynegi eich creadigrwydd.
(Mae'n rhaid i blant dan 7 oed fod yng nghwmni oedolyn)