Am

Mae un o'n gweithdai mwyaf poblogaidd yn dychwelyd ar gyfer yr haf. Ymunwch â ni i greu darn o waith celf i'w anfon at rywun arbennig! Bydd amrywiaeth o dechnegau a deunyddiau artistig creadigol i chi eu harchwilio, a bydd ein tîm creadigol wrth law i helpu gyda syniadau ac i roi ysbrydoliaeth.   
  
Mae'r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 4+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau'r gweithgaredd.   
  
Mae ein holl weithdai wedi'u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â'r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.   
  
Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i'w harchwilio yn ein harddangosfa.  
  
Galw heibio, am ddim.