Am

Mae’r gweithdy hwn wedi’i ysbrydoli gan ‘Holiday Memory’ Dylan Thomas a byddwn yn creu pypedau a theatrau yn seiliedig ar themâu traddodiadol glan môr. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.  

  

Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys gemau, pypedau, cornel ddarllen a gwisgo i fyny. 

  

Mae ein holl weithdai wedi'u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â'r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.  

  

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i'w harchwilio yn ein harddangosfa. 

  

Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran. 

  

Galw heibio, am ddim.