Am

Eleni rydym yn dathlu 72 mlynedd ers y perfformiad llwyfan cyntaf o ddrama enwog Dylan, Under Milk Wood, sydd wedi’i lleoli mewn pentref glan môr bach yng Nghymru. Yn y gweithdy hwn gallwch greu eich adeilad clai bach eich hun wedi’i ysbrydoli gan rai o’r cartrefi, y siopau a’r lleoliadau yn ei dref ffuglennol, Llareggub.

Mae ein holl weithdai wedi'u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â'r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.     

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i'w harchwilio yn ein harddangosfa.  

Hwyl i deuluoedd â phlant o bob oedran.  

Galw heibio, am ddim  

Yn ddelfrydol ar gyfer plant bach 2 oed hyd at oedolion.