Am

Mae'r gweithdy hwn i oedolion yn cynnig cyflwyniad i hanfodion paentio gwydr traddodiadol, gan gynnwys cymysgu paent ac archwilio gwahanol frwshys, offer a thechnegau i gyflawni amrywiaeth o orffeniadau. Darperir yr holl ddeunydd a chyfarpar diogelu personol. Gan gael eich ysbrydoli gan arferion gwydr lliw o sawl cyfnod, cewch y cyfle i brofi meinder paent gwydr lliw a dysgu sut i'w drin er mwyn creu detholiad o ddarnau addurnol.

Ar ddiwedd y sesiwn, caiff eich darnau eu tanio mewn odyn. Byddant yn gorffen mewn ffrâm blwm, â dolenni i'w hongian. Bydd modd casglu'r darnau o Oriel Mission dros y penwythnos canlynol. Mae Zoe Boulton yn artist gwydr lliw sydd wedi'i hyfforddi'n draddodiadol. Mae'n canolbwyntio ar dechnegau a deunyddiau y gellir eu defnyddio at lawer o ddibenion hanesyddol a chyfoes.

Mae arfer proffesiynol Zoe yn cwmpasu gwaith cadwraeth ac adfer, gwydro addurnol ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu, ac addysgu pobl, o ddechreuwyr i ôl-raddedigion. Yn ei harfer personol, mae Zoe yn creu gwaith sy'n archwilio delweddau o lên gwerin a llenyddiaeth ganoloesol. Mae'n defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau, gan gynnwys euro ac ysgythru asid i greu gwaith annibynnol sy'n manteisio ar briodoleddau materol unigryw gwydr. Gweithdy AM DDIM i oedolion 16 oed ac yn hŷn. Nid yw'n addas i'r rhai hynny sy'n feichiog neu sy'n bwydo ar y fron, oherwydd natur y deunyddiau a ddefnyddir. Mae Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu crefftau o bob math – ni waeth a ydych yn arbrofi â hen sgiliau crefft neu brosesau newydd, rydym yn gobeithio y byddwch yn cael amser da!    

Rhagor o Wybodaeth. Bydd y gweithdy'n dechrau drwy roi cyflwyniad i’r diwrnod a'r gofynion iechyd a diogelwch. Rhaid i bob cyfranogwr wisgo esgidiau wedi'u gorchuddio, oherwydd y defnyddir gwydr. Darperir cyfarpar diogelu personol ychwanegol, gan gynnwys ffedogau, i ddiogelu dillad, a mygydau i ddiogelu rhag y paent lliw pan fydd yn sych.

Bydd menig nitril ar gael i'r rhai hynny sydd am eu gwisgo. Darperir amrywiaeth o wydr nadd i bawb, ynghyd â'r holl offer angenrheidiol ar gyfer y sesiwn. Gan ddefnyddio cyfeiriadau hanesyddol o ffenestri gwydr lliw, rhoddir arddangosiad o sut i gymysgu'r pigment a disgrifiad byr o'r mathau o offer a brwshys a sut i'w defnyddio. Yna dangosir i'r cyfranogwyr sut i ddodi'r haenen waelod o baent, ynghyd ag unrhyw haenau a thechnegau ychwanegol a ddefnyddir i gyflawni dyluniad addurnol. Ar ôl y cyflwyniad cychwynnol, bydd cyfle i gael seibiant byr.

Yna byddwn yn dechrau cymysgu'r pigment ac yn dechrau paentio. Darperir cymorth unigol ac arddangosiadau ychwanegol yn ôl yr angen, a bydd gweddill y sesiwn yn canolbwyntio ar arbrofi er mwyn creu darnau gorffenedig. Ar ddiwedd y sesiwn, caiff gwaith pawb ei gasglu a'i danio mewn odyn dros nos. Caiff y darnau eu dychwelyd mewn ffrâm blwm, â dolenni i'w hongian. Bydd y rhain ar gael i'w casglu o Oriel Mission o'r penwythnos canlynol.