Am
Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy'n niwrowahanol.
Dewch i greu diorama codi gwych gan ddefnyddio collage a deunyddiau printio creadigol a lliwgar. Mae dioramâu'n fydoedd bach hudol; yn ein gweithdy, byddwn yn cynnwys ein hoff atgofion o’r haf wedi'u hysbrydoli gan y darllediad radio ‘Holiday Memory’ gan Dylan Thomas.
Bydd dewis amgen hefyd i greu llun gan ddefnyddio collage a phrint.
Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a
bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy'n niwrowahanol.
Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
Ystod oedran a awgrymir: 2 oed ac yn hŷn ar gyfer gweithgareddau collage a phrintio; 8 oed ac yn hŷn ar gyfer dioramâu.
Gall uchafswm o 28 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre
Am ddim