Am

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy'n niwrowahanol.  

Mae un o'n gweithdai mwyaf poblogaidd yn dychwelyd ar gyfer yr haf. Ymunwch â ni i greu darn o waith celf i'w anfon at rywun arbennig! Bydd amrywiaeth o dechnegau a deunyddiau artistig creadigol i chi eu harchwilio, a bydd ein tîm creadigol wrth law i helpu gyda syniadau ac i roi ysbrydoliaeth.   

Mae'r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 4+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau'r gweithgaredd.   

Gall uchafswm o 28 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre   

Am ddim.