Am

Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy'n niwrowahanol.  

  

Mae ein gweithdy creu dyddlyfr 'Holiday Memory' poblogaidd yn dychwelyd i Ganolfan Dylan Thomas! Gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddarllediad radio poblogaidd Dylan, 'Holiday Memory', byddwn yn creu dyddlyfrau gyda phocedi dirgel, tudalennau sy'n plygu allan ac amlenni cudd er mwyn casglu'ch hoff atgofion a straeon o'r haf. Bydd y cyfan yn cael ei wneud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu, sy’n amgylcheddol gynaliadwy.  

  

Mae'r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd â phlant 7+ oed, mae croeso i blant iau ond efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad i gwblhau'r gweithgaredd.  

  

Mae ein holl weithdai wedi'u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â'r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.  

  

Gall uchafswm o 28 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre   

  

Am ddim.