Am
Gweithdy yw hwn i deuluoedd y mae angen profiad gweithdy tawelach arnynt a bwriedir iddo fod yn addas i blant a phobl ag awtistiaeth ac sy'n niwrowahanol.
Yma yng Nghanolfan Dylan Thomas, rydyn ni'n dwlu ar gemau bwrdd! Yn y gweithdy hwn, byddwn yn gwneud gêm fwrdd teithio neu gêm gardiau yn ei blwch bach ei hun! Bydd gwahanol fathau o gemau i’w gwneud, gan gynnwys gêm baru syml, cardiau adrodd straeon, a gêm fwrdd fach lle byddwch chi’n penderfynu ar y rheolau! Hefyd, bydd yna lu o gemau bwrdd a gemau adrodd straeon i'w chwarae yn ein sied ysgrifennu.
Mae'r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd gyda phlant rhwng 5 a 15 oed, fodd bynnag mae croeso i bob oedran; efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad ar blant bach er mwyn cwblhau'r gweithgaredd.
Gall uchafswm o 28 person ddod i’n gweithdy. Archebwch eich tocyn grŵp/teulu am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/swansea/dylan-thomas-centre
Am ddim.