Am

Crëwch eich platiau stori anferth rhyfeddol eich hun yn y gweithdy i deuluoedd hwn i bobl o bob oedran.

Yn ein harddangosfa Teigrod a Dreigiau, mae Adeela Sulema yn defnyddio hen waith cerameg i adrodd hanes llai cyffredin am y Prydeinwyr yn India, felly rydyn ni’n mynd i greu ein platiau ein hunain sy’n sôn am ein diddordebau, ein treftadaeth a’n straeon – rhai go iawn a dychmygol!

Dyluniwch, paentiwch, crëwch ludwaith, cerfluniwch a throwch eich syniadau’n blât realistig hyfryd, sy’n addas ar gyfer unrhyw ddreser Gymreig!

Mae’r gweithdy hwn yn rhan o’n prosiect parhaus Straeon Abertawe. Mae gan yr oriel gasgliad o dros 11,000 o gelfweithiau – adroddwch eich straeon a sicrhewch fod y casgliad yn ddiddorol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!

Gwybodaeth bwysig: Mae gennym le tawel i deuluoedd a phlant ag anghenion synhwyraidd. Os yw’r gweithdy prysur yn peri gofid i chi neu eich plentyn, siaradwch â’r staff ar y diwrnod neu e-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk cyn y gweithdy am ragor o wybodaeth.

£3.00 y plentyn

Rhaid cadw lle

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein.