Am

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Dylan Thomas am amrywiaeth o weithgareddau hunanarweiniedig difyr sy'n addas i deuluoedd. Gallwch gael hwyl yn archwilio darllediad radio Dylan o 'Holiday Memory' ac yn nodi eich atgofion eich hun o wyliau hefyd. Gallwch fwynhau pypedau glan môr, ysgrifennu ac addurno cerdyn post, creu comig bach 'Holiday Memory', barddoniaeth fagnetig, gemau creu straeon, cornel ddarllen a mwy. Mae gweithgareddau sy'n addas ar gyfer ystod o oedrannau, croeso i bawb ๐Ÿ˜€  


Bob dydd  Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul, o 26 Gorffennaf i 31 Awst.
Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm. 
Am ddim.