Am
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, byddai milwyr Prydeinig yn gwneud pincasau neu glustogau bach tra oedden nhw mewn gwledydd pell, mewn lleoliadau cyfrin, neu’n gwella yn yr ysbyty ymhell o’u cartref. Roedden nhw’n aml yn eu hanfon adref at wragedd, cariadon, mamau, a ffrindiau agos weithiau; i bob pwrpas, y bobl roedden nhw’n eu caru, a’r bobl oedd yn eu caru nhw.
Roedd y clustogau, a oedd yn aml wedi’u haddurno’n gain, yn rhoi cysur ac yn atgoffa o gysylltiad emosiynol. I’r gwneuthurwyr, roedd creu’r clustogau yn gyfle i hel atgofion, i fyfyrio ar berthnasoedd y gorffennol a’r presennol, ac yn ffordd o fynegi emosiwn na allai ond ychydig o bobl ei glywed.
Yn aml, roedd y clustogau hyn yn cael eu haddurno â gleiniau, secwins, darnau bach o ddrychau, ffelt, a phaneli parod o ddefnyddiau wedi'u darganfod.
Gweithgaredd galw-i-fewn hunan arweiniol, arhoswch am 20 munud neu ychydig oriau; dewch i greu a sgwrsio!
Mae'r sesiynau am ddim ac yn agored i bawb. Darperir taflen weithgaredd a pheth deunyddiau.
10yb - 2yp: Gweithgaredd hunan arweiniol galw-heibio; cewch aros am gyhyd ag y dymunwch.
Cofiwch fod yn rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Gweithgareddyn ymateb i arddangosfa 'Gwynt Traed y Meirw' Nigel Hurlstone. Mae'r arddangosfa yn parhau hyd at 4ydd Ebrill 2026.