Am

Dewch i gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth ymarferol yng Nghoed Cwm Penllergare!

P'un a ydych chi'n wirfoddolwr profiadol ym maes cadwraeth neu'n hollol ddibrofiad, mae ein sesiynau ddydd Sul yn ffordd wych o dreulio bore yn yr awyr agored, dysgu rhywbeth newydd a helpu i ofalu am y goedwig. Mae'r sesiynau hyn ar gyfer pobl 18+ oed yn unig.

Gan ddibynnu ar yr hyn y mae ei angen, gall gweithgareddau gynnwys plannu, prysgoedio, rheoli rhywogaethau, glaswelltir a phyllau.

Nid oes angen profiad a darperir yr holl offer (yn ogystal â diod poeth am ddim!).