Am

Ymunwch â ni mewn gweithdy arbennig i bwytho eich addurn eich hun ar WISG CALICO CYMRU. 

Am 10 wythnos o fis Ebrill i fis Mai bydd Gwisg Calico Cymru i’w gweld yn ei holl ogoniant ar blinth mawr ar lawr isaf Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y gofod perffaith i chi ddod i bwytho eich dyluniad eich hun ar y wisg. 

Bydd y sesiynau ar dechneg pwytho dan arweiniad yr artist tecstilau Menna Buss (@menna_buss) felly does dim angen profiad blaenorol. 

Yn y sesiynau byddwch yn dylunio ac yna’n pwytho addurn ar thema Cymru – Ddoe, Heddiw ac Yfory, gan ychwanegu eich llais chi at y cynfas arbennig hwn. 

Erbyn diwedd ei hamser yn yr Amgueddfa, bydd gennym wisg unigryw wedi’i haddurno’n gywrain.  

-Mae'r gweithdai tua 2 awr o hyd 

- Oed 16+ 

- Does dim angen profiad blaenorol! 

- Does dim angen dod ag unrhyw beth, ond croeso i chi ddod â’ch edau eich hun. 

Cefndir 

Yn 2022 cafodd project Y WISG GOCH yr artist Kirstie Macloed ei arddangos yn yr Amgueddfa. Mae’r project hwn, sydd ar fynd ers 15 mlynedd, yn casglu lleisiau merched o bob cwr o’r byd, mewn pwythau. 

Cafodd GWISG CALICO CYMRU ei chomisiynu gan yr Amgueddfa, y wisg gyntaf i gael ei chreu wedi’i hysbrydoli gan y wisg goch. Erbyn hyn mae nifer o rai eraill ar draws y byd. 

Archebu fel Grŵp Cymunedol ...os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol ac eisiau cyfrannu at y wisg mewn sesiwn arbennig, cysylltwch â ni  miranda.berry-bowen@amgueddfacymru.ac.uk