Am

Cynfas brodwaith cymunedol yw Gwisg Galico Cymru, lle i bawb gael dweud eu dweud trwy bwytho.  

Yn Ebrill 2025, fe gychwynodd y wisg ar gyfnod newydd ar ei thaith yn yr amgueddfa pan gafodd ei lliwio â lliw indigo naturiol a siaced ‘betgwn’ wlân, yn deyrnged i wisg draddodiadol Gymreig.  

Dros y 10 wythnos canlynol fe drawsnewidiwyd y wisg mewn dros 30 o weithdai dan arweiniad yr artist Menna Buss. Daeth y gweithdai yma ac aelodau o’r gymuned at eu gilydd, rhai oedd gyda phrofiad o frodio, ond nifer fawr heb brofiad, i rannu straeon a’u cysylltiadau gyda Chymru.  

  • Women’s Asylum Seeker Support Group 
  • Myfyrwyr Celf PCYDDS  
  • Grwp Barakah  
  • 9to90 - GS Artists 
  • PRIDE Abertawe  
  • Chai & Chat 
  • Born this Way 
  • YMCA Good Vibes 
  • Women’s Institute - Gŵyr 
  • Swansea Creatives for Palestine 
  • Cymdeithas Tsieineaid yng Nghymru 
  • Swansea Sewers 
  • Glynn Vivian Art Gallery: Threads 
  • Valleys Kids 
  • Insole Court Sewers 
  • Swansea Carers 
  • Staff yr Amgueddfa 
  • A nifer o sesiynau cyhoeddus, gan gynnwys sesiynau i blant.  

Yn Hydref 2025 fe wnaeth y wisg ymddangos yng Nghardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gŵyl Grefft Aberteifi a Coleg Gwyr Abertawe ac mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y wisg yn 2026.  

Hanes Gwisg Galico Cymru  

Yn 2022, cafodd project rhyngwladol enwog Kirstie Macloed, Y Wisg Goch, ei arddangos yn yr Amgueddfa.  

Mae’r prosiect bellach wedi torri Record Byd Guinness am y nifer mwyaf o frodwyr i weithio ar un dilledyn. Cafodd y wisg ei chreu gan 380 o artistiaid mewn 51 gwlad dros gyfnod o 14 mlynedd. Mae’r prosiect yn parhau i deithio ac ysbrydoli.  

Cafodd Gwisg Galico Cymru ei chreu mewn partneriaeth â'r Amgueddfa. Dyma 'ferch' gyntaf y Wisg Goch. Bellach mae llawer iawn o rai eraill yn cael eu datblygu ar draws y byd. ⁠Byddan nhw'n cael eu harddangos gyda'u gilydd yn y dyfodol.