Am
Gwobr Wakelin 2026, Hannah Walters
Dydd Gwener 16 Hydref 2026 - Dydd Sul 3 Ionawr 2027
10:00 am - 4:30 pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2026. Prynwyd mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian.
Rhoddir y wobr flynyddol i artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru y mae ei waith yn cael ei brynu ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Derbynnydd Gwobr Wakelin 2026 yw Hannah Walters. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Cinzia Mutigli, Anya Paintsil, Ingrid Murphy a Lucia Jones.
Y dewiswr eleni yw Catherine Spring, curadur Oriel Myrddin, Caerfyrddin.
Meddai Catherine, “Roedd yn benderfyniad hawdd dewis Hannah i dderbyn Gwobr Wakelin eleni. Mae ei gwaith yn dangos lefel eithriadol o ddawn a chrefftwaith, ar y cyd â synnwyr digrifwch go iawn a natur chwareus sy’n gwneud y darnau’n afaelgar ac yn gofiadwy. Yn benodol, mae’r ffordd y mae ei hymarfer wedi’i wreiddio yn iaith weledol gyfoethog siop hen bethau ei rhieni a’r crochenwaith hanesyddol y cafodd ei magu yn ei fysg wedi creu argraff arnaf. Mae’n cyflwyno’r dylanwadau hyn mewn cyd-destun cyfoes gyda gwres, gwreiddioldeb a sensitifrwydd. Mae Hannah yn llawn haeddu’r wobr, ac rwy’n falch o weld ei gwaith yn cael ei gydnabod fel hyn.”
Meddai Hannah Walters, “Rwyf wrth fy modd i gael fy newis i dderbyn Gwobr Wakelin 2026. Mae’n wych ymuno â’r rhestr hir o enillwyr blaenorol, sy’n llawn artistiaid a gwneuthurwyr rwy’n eu hedmygu. Mae llawer ohonynt wedi ysbrydoli fy llwybr creadigol fy hun. Rwy’n ddiolchgar i’r rhai hynny sy’n sefydlu ac yn cynnal y wobr ac sy’n dewis yr enillydd. Mae Gwobr Wakelin yn ddangosydd diwylliannol pwysig sy’n amlygu artistiaid o Gymru ar adegau allweddol yn ein gyrfaoedd. Rwy’n falch bod gennyf gorff o waith yn Oriel Gelf Glynn Vivian lle gall greu cysylltiadau newydd â’r crochenwaith traddodiadol yn y casgliad.”
Gweinyddir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a’u mab Martin, yr oeddent hwythau hefyd yn artistiaid ac yn cefnogi’r celfyddydau’n frwd yn Abertawe.
Meddai Dr Peter Wakelin, “Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn un o orielau celf gorau Cymru yn ogystal â bod yn adnodd gwych i bobl Abertawe. Mae’n wych gweld yr oriel yn parhau i gryfhau ei chasgliad a chefnogi artistiaid o Gymru drwy’r wobr hon gyda chymorth y Cyfeillion.”
Meddai Melvyn Williams, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian, “Helpu i ychwanegu at y casgliad o gelf sydd ar gael i bobl Abertawe yw nod Cyfeillion y Glynn Vivian. Mae gallu gwneud hynny mewn ffordd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith y gellir ei weld yn barhaol yn yr oriel yn destun boddhad penodol. Mae cerfluniau Hannah Walters yn adleisio hanes Abertawe a’i chrefftau traddodiadol, gan sicrhau mewn ffordd ddifyr a hygyrch fod y casgliad yn gyfredol. Mae ei gwaith yn bleser pur ac mae’n llawn haeddu Gwobr Wakelin eleni.”
Meddai Karen MacKinnon, curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, “Rydym wrth ein boddau bod Catherine wedi dewis gwaith Hannah ac yn ddiolchgar iawn i Peter, y teulu Wakelin a Chyfeillion y Glynn Vivian am wneud y wobr hon yn bosib. Mae gwaith difyr Hannah yn swyddogaethol ac yn gerfluniol ac mae’n cyfeirio at ei phlentyndod a’r hanesion dwfn sydd wedi’u gwreiddio mewn clai a phorslen. Mae ei gwaith yn cydweddu’n wir â’n casgliad crochenwaith, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei rannu â’n cynulleidfa.
Hannah Walters
Mae Hannah Walters yn artist crochenwaith o Gymru sy’n gweithio yn Fireworks Studios yng Nghaerdydd. Wedi’i hysbrydoli gan ei hamser yn gweithio yng nghanolfan hen bethau ei theulu yn sir Benfro, mae ei gwaith yn ail-wneud gwrthrychau traddodiadol, casgliadau a syniadau o werth drwy grochenwaith. Gan weithio’n bennaf gyda phorslen, mae’n creu gwrthrychau cerfluniol ac answyddogaethol. Mae Walters yn disgrifio llawer o’i darnau fel “hen bethau cyfoes”, gwrthrychau sy’n teimlo’n hanesyddol ac yn newydd. Mae ei gwaith wedi’i arddangos ledled y DU, gan gynnwys yn Collect, Artefact, a’r Llwybr Cerfluniau yng Ngŵyl Grefft Cymru.
Catherine Spring
Yn ddiweddar, derbyniodd Catherine Spring rôl fel cynhyrchydd creadigol yn Oriel Myrddin, ar ôl arwain yr oriel drwy broses ailddatblygu sylweddol. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn celf a dylunio cymhwysol cyfoes a hi yw Cyfarwyddwr Arddangosfa Cymru yn Biennale Fenis rhif 61 gyda’r prosiect cydweithredol Sownd, drwy gymorth Oriel Davies ac Oriel Myrddin, y sefydliadau arweiniol.
Richard and Rosemary Wakelin
Roedd Richard Wakelin (1921-1987) a Rosemary Culley (1919-1998) yn artistiaid a oedd yn gweithio yn Abertawe o ddiwedd y 1950au. Fe’u ganed yng Nghaerdydd a chyfarfuont pan oeddent yn fyfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym 1939 cyn treulio’r rhyfel yn y lluoedd arfog. Priododd y ddau ym 1947. Bu Richard yn gweithio fel pensaer mewn practis preifat yn Abertawe ac yn ddiweddarach gyda chyngor y ddinas (lle roedd ei rôl yn cynnwys gwaith gofalu ac addasu yn Oriel Gelf Glynn Vivian). Fel artistiaid, roedd y ddau’n defnyddio arddulliau haniaethol, ond roeddent yn gwerthfawrogi pob math o gelf a chrefft. Gweithiodd y pâr gyda sawl sefydliad i hyrwyddo’r celfyddydau gweledol, yn arbennig Cymdeithas Gelfyddydau Abertawe, Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, 74 Guild of Artist Craftsmen, y Grŵp Cymreig a Chyfeillion y Glynn Vivian.
Roeddent yn gyd-sylfaenwyr Gweithdy Celf Abertawe yn yr Ardal Forol, sef Oriel Mission erbyn hyn. Roeddent yn awyddus i helpu ac annog artistiaid a chrefftwyr talentog, ac i ehangu mwynhad o’r celfyddydau yn Abertawe. Enwau eu tri phlentyn sydd yn fyw yw Andrew, Sally (a’i merch Kate) a Peter Wakelin. Bu farw eu mab hynaf, Martin, yn 2012 gan adael ei wraig Christine Townley a’i ferch Megan, sy’n parhau i ymddiddori yn y wobr.
Cyfeillion y Glynn Vivian
Mae grŵp Cyfeillion y Glynn Vivian yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’r oriel, ond mae hefyd yn sefydliad bywiog yn ei rinwedd ei hun. Mae ei raglen ddigwyddiadau’n cynnwys darlithoedd, ymweliadau y tu ôl i’r llenni a digwyddiadau cymdeithasol.
Mae Cyfeillion y Glynn Vivian, a sefydlwyd ym 1958, wedi ffynnu ers hynny. Fel elusen annibynnol, fe’i cynhelir yn llwyr gan ei haelodau, a’u nod cyfunol yw helpu gyda gwaith Oriel Gelf Glynn Vivian, gan ddarparu gwirfoddolwyr, cyfrannu at brynu celfweithiau sy’n ehangu casgliad yr oriel a chefnogi rhaglenni’r oriel.