Am

Dewch i ddathlu athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a thimau chwaraeon Abertawe, Ebrill 2, 2025 yn Neuadd Brangwyn, yn 25ain blwyddyn Gwobrau Chwaraeon Abertawe.

Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni’n ei hadnabod ac yn dwlu arni.

P’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus trwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe’n ddinas sy’n llawn pencampwyr chwaraeon.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 2 Ebrill 2025 yn lleoliad crand Neuadd Brangwyn. Bydd tocynnau ar werth ar ôl cyhoeddi'r rhestr fer o enwebeion yn y flwyddyn newydd.