Am
Bydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl fis Hydref eleni, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer pob oedran mewn amgueddfeydd ledled Cymru – gyda llawer ohonynt AM DDIM.
Rydym ni wedi ymuno â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru er mwyn rhannu torreth o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda chi. Bydd amgueddfeydd o bob math, ar hyd a lled y wlad yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru; dewch i'n gweld ac ymunwch yn y dathliadau.
Cadwch lygad ar ein tudalen digwyddiadau i ddod o hyd i ddigwyddiad gwych mewn amgueddfa yn eich ardal chi: https://gwylamgueddfeyd.cymru