Am

Gŵyl Bwyd a Diod Abertawe – Haf 2026
Dydd Gwener 7 – dydd Sul 9 Awst 2026
Stryd Rhydychen, Princess Way a Portland Street, Abertawe SA1 3AE
Mynediad AM DDIM |Addas i Gŵn

Rydym yn ôl, Abertawe!

Ar ôl llwyddiant ysgubol y digwyddiad y llynedd, bydd Gŵyl Bwyd a Diod Abertawe yn dychwelyd yn ystod yr haf am dridiau llawn bwyd anhygoel, diodydd i dorri eich syched ac ymdeimlad calonogol yng nghanol y ddinas.

O fwyd stryd blasus a melysion moethus i ddiodydd crefft, stondinau artisan a gwneuthurwyr annibynnol, bydd canol y ddinas yn cael ei drawsnewid unwaith eto i ddathlu bwyd lleol ac ysbryd cymunedol.

P'un a ydych yn cynllunio diwrnod allan i'r teulu, yn cwrdd â ffrindiau am goctels, neu'n dymuno crwydro drwy arogleuon anhygoel gan ddal rhywbeth blasus yn eich llaw, dyma'r lle perffaith!

Trefnir yr ŵyl gan LSD Promotions mewn cydweithrediad â Chyngor Abertawe a'i nod yw dod â phobl ynghyd a dathlu popeth rydym yn dwlu arno am Abertawe.

⏰ Dyddiadau ac Amserau:
Dydd Gwener, 7 Awst | 10am – 7pm
Dydd Sadwrn 8 Awst | 10am – 7pm
Dydd Sul 9 Awst | 10am – 5pm

Lleoliad
Stryd Rhydychen, Princess Way a Portland Street
Abertawe
SA1 3AE

Sut i gyrraedd yma
Mewn car: Mae meysydd parcio'r cyngor yng nghanol y ddinas yn costio £1 yr awr neu £5 am y diwrnod cyfan (ac eithrio Bae Copr)
Ar y trên: Gorsaf Abertawe, Y Stryd Fawr, SA1 1NU
Ar fws: Gorsaf Fysus Abertawe, SA1 3AR

Mynediad am ddim
Addas i gŵn

Ewch ati i nodi'r dyddiadau yn eich dyddiadur a gwahodd eich ffrindiau sy'n dwlu ar fwyd! Yn goron ar y cwbl, bydd mynediad AM DDIM – does dim angen tocynnau.