Am
Mae Gŵyl Bwyd a Diod Ystumllwynarth yn ôl ddydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Medi 2025 yng Nghastell Ystumllwynarth, y Mwmbwls, Abertawe.
Bydd Gŵyl Bwyd a Diod Ystumllwynarth yn cynnwys bwyd, diod a'r Ŵyl Wystrys enwog sef y peth tebycaf i ŵyl bwyd a diod draddodiadol i’w gynnal yn yr ardal. Wystrys, bwyd a diod! Beth arall fyddai ei angen arnoch chi?!
Mae'r ddau ddiwrnod yn dechrau am 11am gydag arddangosiadau a sgyrsiau'n cael eu cynnal o 12pm tan 5pm. Mae'r holl gerddoriaeth fyw AM DDIM a does dim ffioedd mynediad felly dewch draw i fwynhau'r bwyd a'r ddiod sydd ar gael. Wystrys fydd yn hawlio'r sylw ar y dydd Sadwrn. A bydd te prynhawn MAWR ar y dydd Sul. Bydd y cyfan yn ymwneud â bwyd a diod, gan mai dyna ddiben y peth on'd ife!
Yn yr ŵyl bydd bar trwyddedig, bwyd stryd a stondinau bwyd drwy'r penwythnos cyfan yn ogystal â reidiau, castell neidio a phaentio wynebau. Bydd mynediad AM DDIM drwy'r penwythnos. Mae croeso i bawb!