Am

Eleni byddwn yn dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Gŵyl Gŵyr. Mae Gŵyl Gŵyr wedi dod â cherddoriaeth a'r celfyddydau o’r safon uchaf i’r ardal hon yn ne-orllewin Cymru. Unwaith eto, rydym yn gwahodd cerddorion o fri rhyngwladol i chwarae yn acwsteg ac awyrgylch gwych ein heglwysi hynafol.

Mae'r rhaglen yn un amrywiol gyda rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn falch iawn y bydd Syr Bryn Terfel a'n Llywydd Syr Karl Jenkins yn cychwyn y dathliadau yng Nghapel y Crwys. Yna bydd perfformiadau gan ein noddwyr Llŷr Williams a Catrin Finch, perfformwyr gan sêr sy'n dychwelyd, perfformiadau cyntaf a nosweithiau gyda jazz gan orffen gyda Chymanfa Ganu. Dewch i bori, myfyrio a gwneud penderfyniadau ac edrychwn ymlaen at ŵyl haf i ddathlu 50 mlynedd wych ym Mhenrhyn Gŵyr.