Am

Mae Gŵyl NAWR, gŵyl sy'n dathlu’r celfyddydau arbrofol, yn dychwelyd i leoliad Tŷ Tawe yn Abertawe ar benwythnos y 6ed a’r 7fed o Dachwedd 2026.

Prif artist y noson agoriadol ar nos Wener y 6ed o Dachwedd yw Evolution of Beauty, prosiect y cyfansoddwr, cerddor, artist sain a chynhyrchydd Richard James, gynt o'r band Gorky's Zygotic Mynci. Yn ffres o fod yn artist preswyl yn y Deml Heddwch ble perfformiodd tri set 7-awr o hyd fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, bydd Richard yn cyflwyno detholiad o'r darnau hyn yng Ngŵyl NAWR eleni.

Yn ymuno â Richard fydd Teddy Hunter, artist sain a cherddor o Gaerdydd sy'n creu cerddoriaeth amgen electronig wedi'i wreiddio yn y celfyddydau sonig, yr amgylchedd a sain amgylchynol, a sain grefftus ac offeryniaeth electroneg Hylif.

Mae’r ŵyl yn rhedeg trwy’r diwrnod ar ddydd Sadwrn y 7fed o Dachwedd, gyda’r drysau yn agor am ganol dydd a’r gerddoriaeth yn rhedeg ar draws dau lwyfan y lleoliad tan 22:00.

Yn cloi’r nos Sadwrn bydd y cerddor arloesol NikNak, sydd wedi creu enw iddi hi ei hun yn y diwydiant cerddoriaeth gyda'i sgiliau trofwrdd, cyfansoddiadau, a pherfformiadau byrfyfyr swynol. Wedi ei gefnogi gan DJ Mag, Clash, The Wire a Resident Advisor, enillodd ei halbwm cyntaf, ‘Bashi’, ganmoliaeth eang, gan osod NikNak fel un i'w gwylio yn y sin gerddoriaeth electronig arbrofol.

Ar gyfer y perfformiad byw arbennig hwn, bydd NikNak yn creu darn trofwrdd byrfyfyr i anrhydeddu Daphne Oram - gan ddefnyddio synau unigryw Daphne ac ymateb iddynt gan ddefnyddio effeithiau a thechnegau crafu arbrofol i greu synau rhyfedd, newydd o archifau Oram.

Hefyd yn perfformio bydd Pat Morgan, aelod allweddol o’r band arbrofol Datblygu rhwng 1984-2020. Yn gynharach eleni, i nodi pum mlynedd ers marwolaeth David R. Edwards, roedd Recordiau NAWR wedi rhyddhau CD newydd yn dwyn ynghyd y pum cân olaf recordiodd David gyda Pat, ochr yn ochr â detholiad o demos cynnar. Mae Pat hefyd wedi perfformio gydag artistiaid megis Rhodri Davies a Gwenno ar amrywiaeth o brosiectau arbrofol.

Malcolm Neon yw enw llwyfan Malcolm Gwyon, cerddor synthpop ac electronig Cymreig o Aberteifi, Ceredigion, tref a oedd hefyd yn gysylltiedig â Datblygu. Yn gynnar yn yr 1980au sefydlodd Casetiau Neon, y label tâp tanddaearol DIY cyntaf yng Nghymru, gan ryddhau 18 casét rhwng 1980 a 1985. Gŵyl NAWR fydd ond ail sioe fyw Malcolm mewn 35 mlynedd.

Bydd yr ŵyl hefyd yn gweld darnau newydd yn cael eu perfformio gan Warm Leveret (Emma Daman Thomas), Angharad Jenkins & Pete Williams, a Taranau Orchestra, wedi eu comisiynu diolch i gefnogaeth gan gronfa ‘Creu’ Tŷ Cerdd.

Hefyd yn perfformio ar y dydd Sadwrn bydd Hap a Damwain, Spirited Followers, John Bisset + Dan Johnson, Plague Doctors Cure All, FFRWD, a Leona Jones.

Bydd hefyd gosodiad celf gan yr artist Osian Grifford yn archwilio'r Gymraeg yn ein hamgueddfeydd a'n cymunedau, a chyfle i bori recordiau, CDs a chaséts arbrofol diolch i Malcolm Neon a Tony Schiavone yn ogystal â'r Tangled Parrot. Yn ystod y prynhawn ar y dydd Gwener, bydd gweithdy DJ arbrofol gyda Daisy Moon yn Theatr y Volcano. Mae'r gweithdy hwn yn agored i fenywod a phobl o hunaniaethau rhyw amrywiol ac yn addas ar gyfer ddechreuwyr.