Am
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad wythnos o hyd y llynedd, dychwelodd Gŵyl Para Chwaraeon 2024 i Abertawe i adeiladu ar y cyfleoedd cynhwysol lleol a’r cyfleoedd para-chwaraeon cystadleuol a arddangoswyd y llynedd. Y tu allan i ddigwyddiadau mawr traddodiadol, fel y Gemau Paralympaidd, Gemau’r Byddar, Gemau Byd-eang Virtus neu’r Gemau Olympaidd Arbennig, mae hwn yn ddigwyddiad unigryw a gyfunodd ddigwyddiadau para-chwaraeon cystadleuol ar draws sawl camp, ochr yn ochr â chyfleoedd cyfranogiad cynhwysol.
Roedd digon o ffyrdd o gymryd rhan:
Cymryd rhan – mae diwrnod cyfres insport yn dychwelyd, cyfle i ddod draw i roi cynnig ar dros 20 o wahanol chwaraeon para a dysgu mwy am chwaraeon anabledd yn yr ardal leol.
Gwylio – bydd y digwyddiad yn cynnwys chwe chystadleuaeth para-chwaraeon elitaidd, gan arddangos rhai o’r athletwyr gorau ym myd para-chwaraeon.
Gwirfoddoli – ymunwch â’r tîm i gynorthwyo i chynnal digwyddiadau chwaraeon ar draws Abertawe drwy gydol yr wythnos.
Cydlynwyd yr Ŵyl Para Chwaraeon gan Chwaraeon Anabledd Cymru a chafodd ei datblygu a’i chyflwyno gan rwydwaith o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Campau Cenedlaethol Cymru a/neu Brydain, Cyngor Abertawe, a chlybiau InSport lleol, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd hygyrch o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl.
Mae rhestr digwyddiadau 2024 fel a ganlyn:
Rygbi Cynghrair Anabledd Corfforol – Cymru vs All Stars (Gwylio / Gwirfoddolwr)
2024 World Triathlon Para Series Swansea Abertawe (Gwylio / Gwirfoddolwr)
Cyfres insport: Abertawe (Cymryd Rhan)
Pencampwriaeth Timau a Pharau Boccia UK (Gwylio / Gwirfoddolwr)
Saethu Cymru – Pencampwriaethau Para Chwaraeon Agored Prydain 2024 (Gwylio / Gwirfoddolwr)
Twrnamaint Dod Ynghyd yr Undeb Jwdo Ewropeaidd (EJU) 2024, Abertawe (Gwylio / Gwirfoddolwr)
Agored Abertawe Para Tenis Bwrdd Prydain (Gwylio / Gwirfoddolwr)
Agored Cymru Rygbi Cadair Olwyn (Gwylio / Gwirfoddolwr)