Am
Ar y nos Wener bydd gig agoriadol newydd yn lleoliad The Bunkhouse gyda The Joy Formidable.
Yn ymuno â The Joy Formidable yn The Bunkhouse bydd sŵn mawr ac alawon cain Breichiau Hir, yr arloesol Pat Morgan o Datblygu, a pync neo-rave minimalaidd Crinc.
Yn cloi’r nos Sadwrn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau bydd Gwenno.
Yn chwarae cyn Gwenno yng ngardd yr amgueddfa bydd Melin Melyn, tra bydd Mellt yn cloi llwyfan y Taliesin yn Ystafell Cefnfor yr amgueddfa.
Mae gwesteion arbennig Carwyn Ellis & Rio 18 yn dod â’u sŵn bywiog, byd-eang i Abertawe mewn sioe sy’n cyfuno tropicalia disglair ac offeryniaeth gyfoethog i greu awyrgylch gynnes sy’n teimlo’n glasurol ac yn hynod gyfoes.
Hefyd yn ymddangos ar draws y lein-yp ar y dydd Sadwrn bydd Candelas, Cerys Hafana, Mwsog, Griff Lynch, a Coron Moron, gyda mwy o enwau i'w cyhoeddi.
Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gan gynnwys amrywiaeth eang o weithdai celf a cherddoriaeth werin i bobl ifanc yn arwain at yr ŵyl. Mae prosiect sesiynau byw'r ŵyl mewn partneriaeth ag Am yn dychwelyd eto eleni, tra bydd prosiect newydd dan arweiniad y cerddor o Abertawe Ify Iwobi yn ffurfio côr cymunedol newydd i agor rhaglen gerddoriaeth yr ŵyl.
Ar ddydd Sadwrn yr ŵyl, bydd yna hefyd llwyfan cymunedol newydd sbon ar agor i ysgolion lleol ac artistiaid newydd, sioeau theatr rhyngweithiol, perfformiadau dawns, ac amrywiaeth eang o stondinau a gweithgareddau yng nghyntedd yr amgueddfa.