Am

Dim cynlluniau ar gyfer hanner tymor mis Hydref? Ymunwch â Ni ar gyfer Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol!

Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am fodau dynol a chymdeithas. Mae’n gyfle i bawb archwilio’r gwyddorau cymdeithasol, o iechyd, maeth a lles i seicoleg, chwaraeonac ymarfer corff, trosedd, cydraddoldeb, technoleg, addysg a hunaniaeth, a llawer mwy!

Thema eleni: ‘Ein Bywydau Digidol’ 

Bydd gweithgareddau rhad ac am ddim yn rhedeg o’r 27ain o Hydref, (yn ystod cyfnod hanner tymor mis Hydref) tan 8 Tachwedd, mewn lleoliadau lluosog ar draws dinas Abertawe. Bydd gweithgareddau galw heibio drwy gydol yr wythnos, yn ogystal . gweithdai gyda lleoedd y gellir eu harchebu.

Bydd digwyddiadau yn cynnwys:

SIOEAU BYW GAN GYNNWYS SALONAU ‘BREUDDWYD’ AMLSYNHWYRAIDD

CWISIAU

DANGOSIADAU FFILM

TEITHIAU CERDDED TYWYS A GWEITHDAI CHWILOTA AM FWYD

GWEITHGAREDDAU A GWEITHDAI YMARFEROL GAN GYNNWYS EFELYCHU AI

Mae pob digwyddiad am ddim, ac mae croeso i bawb (mae rhestrau digwyddiadau yn cynnwys cyngor ar gyfyngiadau oedran ar gyfer rhai digwyddiadau).

I gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys manylion archebu, ewch i’n gwefan:

www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ref2014/ggc/