Am
Dyma’ch cyfle i ddathlu hud canol gaeaf gydag un o draddodiadau mwyaf diddorol a hyfryd Cymru, y Fari Lwyd.
Ymunwch â ni am ddiwrnod o weithdai creadigol, stondinau gan artistiaid a gwneuthurwyr a digon o hwyl yr ŵyl, gyda pherfformiad a gorymdaith dan arweiniad y Fari Lwyd!
Mae traddodiad y Fari Lwyd yn unigryw i Gymru – dewch i weld penglog ceffyl lliwgar yn dod yn fyw trwy gerddoriaeth, drygioni a digon o hwyl a sbri.
Mae'r digwyddiad creadigol hwn yn archwilio straeon, arferion a llên gwerin y Fari Lwyd, gyda chyfleoedd i fod yn greadigol a darganfod rhywbeth newydd.
Dathliad o droad y flwyddyn, gyda gwreiddiau traddodiadol Cymreig a naws y gaeaf.