Am

Gŵyl y Môr Abertawe 

Dewch i fwynhau penwythnos o antur, diwylliant a dathlu arfordirol yng nghanol Ardal Forol Abertawe. 

O'r cei canoloesol bach drwy ddatblygiad sawl doc mawr o gyfnod y chwyldro diwydiannol a wasanaethodd ddiwydiant mwyndoddi copr ffyniannus, i'r ddinas flaengar ar y glannau a welwn heddiw, mae stori Abertawe wedi'i llunio gan y môr.  

Mae Gŵyl y Môr Abertawe yn dod â'r stori honno'n fyw gyda rhaglen lawn o adloniant byw, gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd a phrofiadau bythgofiadwy ar hyd glannau'r ddinas. 

 

Digon i'w fwynhau 

  • Profiadau harbwr, gan gynnwys teithiau ar gychod. 

  • Arddangosfeydd diddorol, gan gynnwys Bad Achub y Mwmbwls a chyryglau traddodiadol Cymreig. 

  • Cymeriadau'r môr sy'n cerdded o gwmpas y lle – cofiwch ddweud helô wrth Gapten Jack y môr-leidr. 

  • Gweithdai a gweithgareddau ymarferol ar thema'r môr, ynghyd ag adloniant ac amser stori i blant. 

  • Cerddoriaeth fyw a chaneuon môr. 

  • Bwyd môr ffres a bwyd stryd wedi'i ysbrydoli gan yr arfordir, ochr yn ochr â chynhyrchwyr crefftus a masnachwyr lleol gyda nwyddau crefft, anrhegion a stondinau ar thema forwrol. 

 

Cynlluniwch eich ymweliad 

Lleoliadau: Parc yr Amgueddfa Abertawe a'r Marina cyfagos, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau 

Dyddiadau: Dydd Sadwrn 8 Awst – dydd Sul 9 Awst 2026 

Mynediad: Mynediad am ddim. 

 

Peidiwch â cholli'r cyfle 

Mae Gŵyl y Môr Abertawe'n addo ffordd ddifyr ac ymdrochol o ddarganfod a dathlu ein hanes morwrol cyfoethog drwy weithgareddau rhyngweithiol i deuluoedd, arddangosfeydd treftadaeth, adloniant byw a llawer mwy, gan daflu goleuni ar y bobl, y straeon a'r diwydiannau a luniodd ein dinas. Ymunwch â ni i brofi Abertawe ar ei gorau, ger y môr!